1 Rhagfyr 2021

Annwyl Arglwyddes Andrews,

Fframweithiau Cyffredin

Diolch am anfon

Y Farwnes Andrews 
 Cadeirydd 
 Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin, 
 Tŷ’r Arglwyddi

copi at fy Mhwyllgor o'r llythyr a anfonwyd gennych at y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS ynghylch fframweithiau cyffredin, a drafodwyd yn ein cyfarfod ar 15 Tachwedd. Byddem hefyd yn croesawu cael gweld unrhyw ymateb a gewch o ystyried y pwyntiau pwysig yr ydych yn eu codi.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn nodi'r rôl rwy’n ei rhagweld i fy Mhwyllgor mewn perthynas â gwaith craffu ar fframweithiau cyffredin. Byddwn yn ymgymryd â rôl oruchwylio gyffredinol yn canolbwyntio ar effaith gyffredinol fframweithiau ar weithrediad y setliad datganoli, gan gynnwys eu perthynas â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a rhwymedigaethau rhyngwladol. Er mai ein bwriad o bosibl fydd craffu ar rai fframweithiau unigol, rydym yn disgwyl mai pwyllgorau pwnc yn y Senedd fydd yn ymgymryd â’r rôl honno i raddau helaeth.

Rydym yn pryderu am yr oedi wrth gyhoeddi fframweithiau cyffredin dros dro a'r amser prin a allai fod ar gael i bwyllgorau graffu arnynt o ganlyniad. Serch hynny, byddem yn croesawu'r cyfle i drafod gyda chi a phwyllgorau cyfatebol yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon sut y gallem gydweithio i graffu ar fframweithiau dros dro.

Ar y pwynt hwn, efallai y byddwch am wybod am y sylw a ganlyn gan Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru mewn gohebiaeth â'r Pwyllgor:

“Wrth gwrs, mater i’r pwyllgorau yw hyd y broses graffu ar y fframweithiau. Yn ddelfrydol, bydd y gwaith o graffu ar y fframweithiau a’u cymeradwyo yn digwydd cyn dechrau’r cyfnod cyn-etholiadol yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw’r dyddiad hwn wedi’i gadarnhau eto, ond mae’n debygol mai ddiwedd mis Mawrth fydd hynny, os bydd yr etholiadau’n cael eu cynnal ar 5 Mai, yn ôl y bwriad.

Rydym yn rhannu eich cydnabyddiaeth bod y rhaglen fframweithiau cyffredin yn broses ailadroddol, ac rydym o'r farn ei bod yn debygol y bydd angen gwneud gwaith craffu parhaus wrth i'r fframweithiau ddatblygu dros amser ac wrth i effeithiau eu gweithrediad ddod yn fwy amlwg.

Credwn fod cryn le am gydweithredu rhyng-seneddol o ran craffu ar fframweithiau, yn ogystal ag unrhyw drafodaeth a all ddigwydd o fewn cwmpas y Fforwm Rhyng-seneddol wedi iddo gael ei ail-ymgynnull. Yn yr ysbryd hwn o gydweithredu, amgaeaf gohebiaeth a gawsom â Llywodraeth Cymru (yr wyf wedi cyfeirio ati uchod), sy'n tynnu sylw at rai o'n pryderon ond sydd hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am sut, o safbwynt Llywodraeth Cymru, mae materion yn symud yn eu blaen rhwng llywodraethau.

Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at Bwyllgor y Swyddfa Weithredol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, Pwyllgor y Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant yn Senedd yr Alban, a Phwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin.

 

Yn gywir,

 

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd